COFNODION
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd
17 Ionawr 2023, 10.30am i 11.30am
1. Croeso ac ymddiheuriadau
Croesawodd Jane Dodds AS bawb i’r cyfarfod, yn enwedig y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS. Nodwyd ymddiheuriadau.
2. Gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal ledled Cymru – Amy Bainton & Ceri Evans, Barnardo's Cymru
Dechreuodd Amy drwy gyflwyno yn gryno y cefndir i’w rôl a gwaith Barnardo’s Cymru o ran gwasanaethau ar ffiniau gofal. Yna aeth ei chydweithiwr, Ceri Evans, i fwy o fanylion am y prosiect Myfyrio. Soniodd hefyd am ba mor llwyddiannus yw trefniant Partneriaeth Strategol Casnewydd, sy’n cynnwys gwasanaethau teulu; y prosiect Babi a Fi; cynadledda grŵp teuluol a'r Tîm Ymateb Cyflym.
Mae'r Tîm Ymateb Cyflym yn rhan allweddol o'r bartneriaeth strategol rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardo's Cymru. Mae’r tîm hwn yn derbyn atgyfeiriadau lle mae teulu mewn perygl o chwalu, a gallant ymateb o fewn 24 awr i gynnig cymorth i’r teulu er mwyn sefydlogi’r sefyllfa, a lle bynnag y bo modd, cefnogi’r teulu i aros gyda’i gilydd yn ddiogel. Cynigir cefnogaeth ddwys, gan gynnwys gweithio gyda'r teulu bob dydd, lle bo angen. Mae hwn yn brosiect bach gyda thri gweithiwr cymorth i deuluoedd yn gweithredu ochr yn ochr â Hyb Diogelu Cyngor Dinas Casnewydd i ymateb ar unwaith i anghenion teuluoedd.
Mae adroddiadau’r chwarter diwethaf ar waith y Tîm Ymateb Cyflym yn dangos y canlynol:
· Rhwng Gorffennaf a Medi 2022, derbyniodd y Tîm Ymateb Cyflym 24 o atgyfeiriadau. Bu cynnydd bach yn nifer yr atgyfeiriadau o gymharu â'r chwarter blaenorol. Ymgysylltodd pob teulu â'r gwasanaeth Ymateb Cyflym
· Derbyniodd y Tîm Ymateb Cyflym bob atgyfeiriad a wnaed heb fod angen i’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ehangach yn Nghasnewydd orfod fynd ar drywydd unrhyw un ohonynt.
O’r 24 o atgyfeiriadau yn y chwarter diwethaf:
Mae adroddiadau Barnardo’s tu hwnt i’r chwarter unigol hwn yn dangos:
Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon, gan gynnwys:
· Yr amser sydd ar gael i weithio gyda theuluoedd. Yn ddelfrydol, mae angen i hyn fod yn hirdymor er mwyn datblygu perthnasoedd a meithrin ymddiriedaeth
· Cyllid cynaliadwy
· Angen ymrwymiad tymor hir gan y llywodraeth
Diolchodd Jane Dodds i Amy a Ceri am eu cyflwyniad a throsglwyddwyd yr awenau i'r Dirprwy Weinidog.
3. Ymateb i gyflwyniad Barnardo's gan Julie Morgan AS & Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog ei hymrwymiad i’r trydydd sector a’i bod yn rhannu’r un weledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau ar ffiniau gofal a’u rôl yn helpu i leihau’n ddiogel nifer y plant sy’n dod i ofal yng Nghymru. Gwnaed argraff arni yn arbennig gan y prosiect Babi a Fi a'r Tîm Ymateb Cyflym.
Cwestiwn:
Sut yn union mae'r Tîm Ymateb Cyflym yn gweithio?
Nododd Amy eu bod yn dîm bach a dim ond yn gweithio yn ninas Casnewydd. Gallant ymateb ar unwaith heb restrau aros ar hyn o bryd. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu ymddiriedaeth a pherthnasoedd cadarnhaol gyda’r teulu cyfan, fel y gall yr “uned” aros gyda’i gilydd.
Cwestiwn:
A yw'r Tîm Ymateb Cyflym ar gael ledled Cymru?
Dywedodd Amy a Ceri nad oedden nhw'n siŵr am hyn gan y gallai gwahanol awdurdodau lleol alw eu gwasanaeth wrth enw gwahanol. Soniasant fod gan Ben-y-bont ar Ogwr y prosiect Rise (sy'n rhan o'r Rhwydwaith Myfyrio) a bod RhCT a Merthyr yn rhoi cynnig ar eu gwasanaethau eu hunain. Codwyd bod angen monitro cysondeb y gwasanaeth os yw'r gwasanaeth am gael ei gyflwyno ledled Cymru.
Cam i’w gymryd: Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y byddai ei swyddfa yn mynd ar drywydd y sefyllfa o amgylch Cymru a throsglwyddo gwybodaeth i Jane Dodds. Cytunodd hefyd i roi'r ffigurau diweddaraf i'r Cadeirydd o ran nifer y plant mewn gofal yng Nghymru
Gofynnodd Jane Dodds i aelodau'r grŵp a oedd ganddynt unrhyw gwestiynau.
Cwestiwn – Cath Lewis, Cŵn Tywys Cymru:
Ydych chi'n gweithio gydag unrhyw deuluoedd sydd â phlant anabl, oherwydd efallai bod ganddyn nhw anghenion gwahanol?
Cadarnhaodd Ceri fod angen ystyried y materion hyn.
Diolchodd Jane Dodds i’r Dirprwy Weinidog am fod yn bresennol ac am gymryd yr amser i ddarganfod mwy am y gwaith da sy’n digwydd ar hyn o bryd. Soniodd hefyd am y themâu ar gyfer cyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol a byddai’n falch pe bai’r Dirprwy Weinidog yn mynychu cyfarfodydd yn ymwneud â’r 1001 o Ddiwrnodau a/neu Dlodi Plant yn y dyfodol. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n hoffi hynny.
4. Y Rhaglen Camu i'r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, Jade Irwin & Liz Bryan, Y Rhwydwaith Maethu
Cyflwynodd Jade ei sleidiau i’r grŵp a rhoddodd wybodaeth fanwl am y prosiect Camu i'r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, sydd yn llwyddiannus iawn a sydd â gofalwyr maeth yn greiddiol iddo yng Ngogledd Iwerddon, a chynlluniau ar gyfer cyflwyno’r rhaglen yng Nghymru. Gweler y sleidiau sydd ynghlwm.
Cwestiwn – Jane Dodds:
A oes yna unrhyw ofalwyr maeth cyflogedig yn ymwneud â'r rhaglen?
Cadarnhaodd Jade bod hyn yn wir a'u bod yn dilyn dwy ffrwd o waith - seibiannau gofal tymor byr a mentora/cefnogi teuluoedd.
Cwestiwn – Jane Dodds:
A fydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru?
Cadarnhaodd Sarah Thomas o'r Rhwydwaith Maethu eu bod ar hyn o bryd yn derbyn Datganiadau o Ddiddordeb gan awdurdodau lleol ac yn trafod ymhellach. Maen nhw’n gobeithio cael un awdurdod lleol o Ogledd Cymru ac un o’r De, gydag anghenion gwahanol ac o dan bwysau gwahanol, a gweithredu’r cam cyntaf o fis Ebrill 2023.
Mae is-bennawd bachog yn cael ei ddefnyddio gan y rhaglen ar hyn o bryd a gofynnodd Jane Dodds bod un tebyg yn cael ei greu yn Gymraeg. Cadarnhaodd Sarah fod hyn ar y gweill ac maent yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg.
Diolchodd Jane i aelodau'r Rhwydwaith Maethu am gyflwyno a gofynnodd am ddiweddariadau ar y gwaith hwn.
5. Rhaglen Eiriolaeth i Rieni, Daljit Kaur Morris & Nadia Lovell, NYAS Cymru
Cyflwynodd Nadia sleidiau i aelodau'r grŵp a chadarnhaodd fod eu Rhaglen Eiriolaeth i Rieni yn mynd rhagddo’n llwyddiannus. Dim ond yng Ngwent y mae'n gweithredu ar hyn o bryd, ond dengys ystadegau ei fod yn gweithio'n gadarnhaol i leihau nifer y plant yn y sir honno sy'n cael eu rhoi mewn gofal.
Mae gwerthusiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan yr Athro Clive Diaz o CASCADE, Prifysgol Caerdydd ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Cadarnhaodd Jackie Murphy o TGP Cymru eu bod yn gweithio gyda NYAS i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth i rieni yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Maent wedi cael cyllid yn ddiweddar gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i weithio gyda theuluoedd du a lleiafrif ethnig.
Cwestiwn – Jane Dodds:
Mae’n ddiddorol iawn gennyf fod y rhaglen yn gallu tynnu teuluoedd yn ôl o’r gweithdrefnau Cyn-achos a’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus. Oes yna unrhyw gysylltiadau yn cael eu gwneud â Rheolwyr Dilyniant Gofal?
Dywedodd Nadia nad oes cysylltiad ar hyn o bryd, ond byddai cysylltiad yn fuddiol iawn.
Cwestiwn – Jane Dodds:
Sut mae'r gwaith yn cael ei ariannu?
Cadarnhaodd Nadia fod y gwaith yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i fod wedi’i ymestyn i 2025.
6. Unrhyw faterion eraill
Cadarnhaodd Jane Dodds fod hwn wedi bod yn gyfarfod llwyddiannus iawn, gyda chyflwyniadau arloesol ar y gwaith sy'n cael ei wneud i gadw plant yng Nghymru allan o'r system ofal trwy wasanaethau ar ffiniau gofal. Bydd holl sleidiau'r cyflwyniadau yn cael eu dosbarthu i aelodau'r grŵp a bydd ystadegau pellach gan Lywodraeth Cymru/Maethu Cymru yn dod yn fuan.
Cadarnhaodd Sian Thomas o Gomisiwn y Senedd fod ymgynghoriad ar waith ar hyn o bryd ynghylch gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal. Darllenwch fwy: Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical (senedd.cymru)
Cadarnhaodd Jane Dodds fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y mae hi’n aelod ohono wedi edrych yn ddiweddar ar gyllid a chynaliadwyedd, a’i bod wedi cael sicrwydd bod yr elfen gynaliadwyedd wedi ei chadarnhau ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Cam i’w cymryd – aelodau'r grŵp i roi gwybod i Jane am unrhyw faterion ariannu y maen nhw’n eu profi ar gyfer unrhyw un o'u prosiectau. Efallai y bydd hi'n gallu cynnig rhywfaint o gymorth. Ebost: jane.dodds@senedd.cymru
7. Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf
26 Ebrill 2023, 10.30am i 11.30am, cyfarfod hybrid – ystafell yn Nhŷ Hywel ac ar-lein. Thema: Y 1000 Diwrnod Cyntaf
27 Medi 2023, 10.30am i 11.30am, cyfarfod hybrid – ystafell yn Nhŷ Hywel ac ar-lein. Thema: Tlodi Plant (ar y cyd â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi)
29 Tachwedd 2023, 10.30am i 11.30am, cyfarfod hybrid
– ystafell yn Nhŷ Hywel ac ar-lein.
Thema: Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs)